Asiantaeth Safonau Bwyd:
15th April 2016
Cafodd yr ysgol gyfan weithdy a pherfformiad ar ddiogelwch bwyd heddiw.
Cymerodd y disgyblion ran mewn profiad dysgu ar ddiogelwch bwyd a gyflwynwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Roedd y sioe a'r gweithdy yn canolbwyntio ar hylendid bwyd yn y gegin gan gyflwyno ffeithiau pwysig er mwyn atal gwenwyn bwyd. Roedd y perfformiad yn llawn hwyl a dysgodd y disgyblion lawer o'r gweithdy.
Mae'r disgyblion i gyd wedi derbyn llythyr ar yr hyn maent wedi'i ddysgu.
Am fwy o wybodaeth ar ddiogelwch bwyd a'r camau i'r cymryd i atal gwenwyn bwyd, cliciwch ar y linc isod.
Diolch yn fawr.