Boreau Hwyl Mehefin 2016:
10th May 2016
Ydych chi'n edrych am rywbeth i'r plant wneud yn ystod yr hanner tymor?
Mae Menter Iaith yn croesawu'r plant i sesiynau bore yn neuadd Iago Sant, Pontypool, rhwng 10 a 12 dros hanner tymor.
Bydd ganddynt gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau megis coginio, celf a chrefft, gemau ayyb.
Cost:
£3 y dydd neu £10 am yr wythnos.
Pryd?
Dydd Mawrth, Mai 31 - dydd Gwener, Mehefin 3ydd.
Dewch i gael hwyl a sbri gyda ni.
Ar gyfer plant rhwng 5-11 oed.
Mae'n rhaid bwcio ymlaen llaw.
Cysylltwch gyda Hannah ar 01495 755 861.
Diolch.