Park Run Pontypool - mae hwn wedi'i ohirio yn anffodus.
16th May 2016
Rydym yn gobeithio annog disgyblion Cyfnod Allweddol 2 i redeg y Park Run ym Mhontypwl ddydd Sul.
Annwyl Riant / Warchodwr,
Ar ran staff Cyfnod Allweddol 2, hoffwn ddweud pa mor falch ydyn ni o ymdrech y disgyblion yn eu sesiynau ymarfer corff dyddiol. Mae’r disgyblion wedi bod yn gweithio’n galed iawn ers dechrau’r tymor ac mae eu ffitrwydd yn gwella o ganlyniad i’w hymroddiad a’u gwaith caled.
Gan fod y disgyblion wedi bod yn gwneud cystal, credwn y byddai’n syniad da i gefnogi y ‘Park Run’ lleol ym Mhontypwl ar ddydd Sul. Credwn y byddai hwn yn ffordd dda o weld sut mae eu lefel ffitrwydd wedi gwella ers dechrau’r flwyddyn a byddai hefyd yn cynnig ffordd o dracio eu lefel ffitrwydd yn y dyfodol.
Os ydy eich plentyn eisiau cymryd rhan dydd Sul, ewch i’r wefan isod. Does dim pwysau ar y disgyblion i gymryd rhan o gwbl, dim ond os ydyn nhw moyn dechrau tracio eu cyflymder rhedeg a dathlu’r ffaith bod eu ffitrwydd wedi gwella.
Mae’r ras yn dechrau ym Mharc Pontypwl am 09:00. (NP4 8AT) Os ydy eich plentyn yn dod i wneud y ras, gofynnwn yn garedig eich bod yn sicrhau bod oedolyn yn bresennol gyda nhw.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth,
Miss Passmore a Staff Cyfnod Allweddol 2.