Gwybodaeth i rieni blwyddyn 6:
18th May 2016
Bydd y disgyblion yn derbyn llythyr heno yn nodi unrhyw ddyddiadau pwysig rhwng nawr a diwedd y flwyddyn sy'n ymwneud gyda'r broses o bonio gydag Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Gan fod rhai rhieni wedi bod yn gofyn, dyma lythyr i’ch atgoffa o wybodaeth pwysig am Wynllyw. Rwyf hefyd wedi cynnwys dyddiadau pwysig ynglŷn â chyfarfodydd a thripiau i Wynllyw. Os oes unrhyw gwestiynau ychwanegol gyda chi, cysylltwch gyda fi yn yr ysgol.
Glan-llyn: Rhoddir cyfle i’r disgyblion fynd ar daith i Lan-llyn rhwng y pumed a'r nawfed o Fedi. Pris y daith yw £185 a rhaid i'r swm hwn gael ei dalu ar y 28ain o Fehefin yng Ngwynllyw.
Archebu Gwisg Ysgol: Gallwch chi archebu'r wisg ysgol a'r wisg ymarfer corff drwy Ysgol Gyfun Gwynllyw yn uniongyrchol neu drwy ymweld â siop ‘Rugger Bug’ yn Ystrad Mynach. 39 Dyffryn Industrial Estate, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7RJ. www.ruggerbug.co.uk.
Dyddiadau Pwysig:
Mehefin 20:
Blwyddyn 6 i Wynllyw am y dydd ar gyfer diwrnod o wersi. (10-2)
Mehefin 28:
Cyfarfod i rieni er mwyn talu am wisg ysgol / Glanllyn ayyb yng Ngwynllyw.
Gorffennaf 6:
Hawl i Holi - 1:30.
Bydd disgyblion blwyddyn 7 yn dod i wneud sesiwn cwestiwn ac ateb gyda disgyblion blwyddyn 6.
Gorffennaf 18:
Mabolgampau Gwynllyw yn Stadiwm Cwmbrân (10-2)
Isod, ceir linc i wefannau Ruggberbug ac Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Os oes unrhyw gwestiynau eraill gyda chi, cysylltwch gyda Miss Passmore.