Llongyfarchiadau i'r timoedd chwaraeon gwahanol.
19th May 2016
Wythnos diwethaf, aeth y tîm pêl-rwyd, rygbi a phêl-droed i gystadlu mewn cystadlaethau gwahanol.
Teithiodd y tîm rygbi i Flaenafon lle chwaraeon nhw i gyd yn dda iawn.
Aeth y tîm pêl-droed i Stadiwm Cwmbrân i gymryd rhan mewn diwrnod o hyfforddiant pêl-droed gyda gemau ar y diwedd.
Chwaraeodd y tîm pêl-rwyd yn wych yn eu gemau nhw gan ennill tair gem a cholli un.
Da iawn i'r disgyblion i gyd a diolch yn fawr iawn i aelodau gwahanol o'n staff sydd wedi bod yn brysur yn eu hyfforddi.
Diolch yn fawr iawn i bawb.