Sesiwn Diogelwch Ffyrdd:
![Sesiwn Diogelwch Ffyrdd:](/images/articles/image_2267_1464106654.jpg)
24th May 2016
Daeth Swyddog Diogelwch Ffyrdd Torfaen i gynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 6 heddiw.
Cafodd y disgyblion gyfle i ddechrau meddwl am gynllunio eu taith i'r ysgol flwyddyn nesaf. Edrychon nhw ar fap o'r ardal leol a dechrau meddwl am ffyrdd saff o gerdded ar hyd gwahanol strydoedd.
Diolch i Dorfaen am ddarparu'r hyfforddiant.