Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

26th May 2016

Dyma drefniadau'r wythnos ar gyfer Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Mawrth, Mehefin 7fed gan fod y dydd Llun yn ddiwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd.

Dydd Mawrth:

Clwb coginio i ddosbarth Miss Hughes tan 4:30. (£1)

Ymarfer ar gyfer yr actorion ar gyfer 'Lion King' tan 4:30.
(Mae'r plant sy'n gorfod aros wedi derbyn llythyr.)

Does dim ymarfer côr am weddill y flwyddyn.

Dydd Mercher:

Clwb rhedeg amser cinio ar gyfer blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hyn os gwelwch yn dda.)

Sesiwn Hyfforddi Pêl-droed ar gyfer disgyblion dosbarth Miss Passmore. (1-2)

Bydd Miss Helen Rogers a Miss Rhian James o Wynllyw yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 heddiw.
(2:30-3:30)

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Dydd Iau:

Gwers nofio heddiw ar gyfer dosbarth Miss Griffiths.

Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:

Clwb darllen amser cinio ar gyfer blynyddoedd 5 a 6.

Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish bore 'ma.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar iard yr adran iau ar ddiwedd y dydd. (50c)

Cwrs arweinwyr digidol blwyddyn 5. (9:30-2)
(Mae'r disgyblion hyn wedi derbyn llythyr.)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr