Trefniadau'r Wythnos:
10th June 2016
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Wythnos Rhifedd ar draws y cwricwlwm. Bydd y disgyblion yn gwneud nifer o dasgau rhifedd yn ystod yr wythnos, yn seiliedig ar ein thema 'Taith i'r Euros.'
Dydd Llun:
Gall y disgyblion wisgo dillad chwaraeon / cit pêl-droed i'r ysgol heddiw. Bydd bob dosbarth yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau yn seiliedig ar un o wledydd yr Euros 2016.
Dim Clwb Drama ar ôl ysgol.
Cystadleuaeth Criced yr Urdd:
Bydd rhai o ddisgyblion blwyddyn 4 yn cynrychioli'r ysgol mewn cystadleuaeth criced heddiw. Bydd angen pecyn cinio, digon o ddŵr ac eli haul ar y disgyblion. Bydd angen het haul ar bob un yn ogystal gan eu fod yn mynd i fod tu allan trwy'r dydd. Bydd y disgyblion yn ôl yn yr ysgol cyn diwedd y dydd.
Bydd y frigad dân yn ymweld gyda phlant blwyddyn 1 heddiw.
Dydd Mawrth:
Taith Blynyddoedd 1 a 2 i Sw Noah's Ark.
Bydd angen i'r disgyblion wisgo eu gwisg ysgol. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion, ynghyd â het haul, eli haul a digon o ddwr. Bydd y disgylion yn dychwelyd i'r ysgol cyn 3:30.
Clwb coginio i ddosbarth Miss Hughes tan 4:30. (£1)
Ymarfer ar gyfer yr actorion ar gyfer 'Lion King' tan 4:30.
(Mae'r plant sy'n gorfod aros wedi derbyn llythyr - yr un plant a wythnos diwethaf.)
Dim ymarfer côr.
Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni. (9-11)
Bydd Halfords yn dod i'r ysgol i wneud gweithdy diogelwch beiciau gyda'r plant sy'n gwneud y cwrs beicio yr hanner tymor hwn.
Clwb rhedeg amser cinio ar gyfer blynyddoedd 5 a 6.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hyn os gwelwch yn dda.)
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Cyfarfod ar gyfer rhieni newydd y derbyn. Neuadd yr ysgol am 6 o'r gloch.
Dydd Iau:
Gwers nofio heddiw ar gyfer dosbarth Miss Griffiths.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Cymru V Lloegr yn yr Euros 2016
2 o'r gloch.
#gorauchwaraecydchwarae
Bydd clwb beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 yn dechrau heddiw.
3:30 - 4:30.
Dydd Gwener:
Clwb darllen amser cinio ar gyfer blynyddoedd 5 a 6.
Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish bore 'ma.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar iard yr adran iau ar ddiwedd y dydd. (50c)
DIWRNOD GWISG ANFFURFIOL/EITEMAU I’R FFAIR HAF
Yn hytrach na gofyn am gyfraniad ariannol, gofynnwn yn garedig eich bod yn cefnogi'r C.Rh.A. wrth iddynt baratoi ar gyfer y Ffair Haf. Rhestrir isod yr eitemau yr hoffent pob blwyddyn i gyfrannu. Ni ddisgwylir i chi wario llawer ar yr eitemau yma.
Meithrin a Derbyn – Llyfrau a phensiliau lliwio
Blwyddyn 1 a 2 - Losin/siocled
Blwyddyn 3 a 4 - Teganau arian poced
Blwyddyn 5 a 6 – Eitemau garddio (planhigion neu hadau) neu deunyddiau ymolchi
Diolch yn fawr.