Trefniadau'r Wythnos:
24th June 2016
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Wythnos Menter a Busnes: Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithdai menter a busnes yr wythnos hon. Byddant i gyd yn cynhyrchu rhywbeth i'w werthu yn y Ffair Haf ddydd Gwener.
Bydd caffi ar iard y babanod i rieni rhwng 2:30 a 3:15 dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau. Bydd y disgyblion yn coginio gwahanol bethau ac yn eu gwerthu bob prynhawn.**
Dydd Llun:
Taith Blynyddoedd 5 a 6:
Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn mynd ar eu taith diwedd flwyddyn. Byddant yn mynd i weld Jungle Book ac yn nofio yn y pwll nofio rhyngwladol yn y Bae.
Bydd angen pecyn cinio ar bob un a bydd angen iddynt wisgo eu gwisg ysgol.
Dim Clwb Drama ar ôl ysgol.
Dydd Mawrth:
Cyfarfodydd Gwynllyw:
Cofiwch bod dau gyfarfod i rieni blwyddyn 5 yng Ngwynllyw heddiw, un yn y prynhawn rhwng 2 a 3:30 ac un rhwng 4 a 6.
Bydd cyfarfod i rieni blwyddyn 6 yn dechrau am 6 o'r gloch.
Taith Blynyddoedd 3 a 4 i Gaerdydd.
Bydd y disgyblion yn mynd i Go Air yn y bore ac i'r Amgueddfa yn y prynhawn.
Gall y disgyblion wisgo eu dillad ymarfer corff i'r ysgol.
Bydd angen £2 yr un ar y disgyblion er mwyn prynu offer os gwelwch yn dda.
Clwb coginio i ddosbarth Miss Hughes tan 4:30. (£1)
Ymarfer ar gyfer yr actorion ar gyfer 'Lion King' tan 4:30.
(Mae'r plant sy'n gorfod aros wedi derbyn llythyr - yr un plant a wythnos diwethaf.)
Dim ymarfer côr.
Dydd Mercher:
Gwersi Cymraeg i rieni. (9-11)
DIM CLWB YR URDD gan fod Mabolgampau'r Urdd.
Mabolgampau'r Urdd yn Stadiwm Cwmbrân ar ol ysgol rhwng 4:15 - 6.
*Bydd y rhai sy'n cystadlu yn derbyn llythyr dydd Llun.*
Dydd Iau:
Bydd disgyblion blwyddyn 5 yn mynd i gymryd rhan mewn Gemau Olympaidd yn Stadiwm Cwmbrân heddiw.
** Mae hwn dal ymlaen heddiw. Bydd angen i'r disgyblion wisgo dillad ymarfer corff a bydd angen iddynt ddod â phecyn cinio os gwelwch yn dda. **
Gwasanaeth derbyn / meithrin.
Bore: 10am
Prynhawn: 2pm
Gwers nofio heddiw ar gyfer dosbarth Miss Griffiths.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Bydd clwb beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 yn dechrau heddiw.
3:30 - 4:30.
Dydd Gwener:
Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish bore 'ma.
Gwers hoci blwyddyn 6.
FFair Haf o 3:30 ymlaen. Croeso cynnes i bawb.
Diolch yn fawr.