Cystadleuaeth Dylunio a Thechnoleg Ysgol Gyfun Gwynllyw:
7th July 2016
Cafodd pedwar o ddisgyblion blwyddyn 6 gyfle i dreulio'r diwrnod yng Ngwynllyw ddoe.
Aeth y disgyblion i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio coron neu gadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni yn ystod yr haf.
Roedd y disgyblion wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddylunio eu cynnyrch cyn mynd a ddoe, cawson nhw gyfle i weithio gydag offer arbennig er mwyn gwneud y cynnyrch gorffenedig.
Diolch yn fawr i adran Dylunio a Thechnoleg Gwynllyw am drefnu'r diwrnod a diolch yn fawr i Mr Tilling am fynd â'r disgyblion.
Diolch yn fawr.