Cyngerdd Ffidil Dosbarth Mrs Dalgleish:
11th July 2016
Perfformiodd plant blwyddyn 2 dosbarth Mrs Dalgleish yn wych fore dydd Gwener.
Mae'r plant wedi bod yn derbyn gwers ffidil bob bore dydd Gwener gyda Miss Rich am dymor a hanner erbyn hyn. Maent wedi bod yn dysgu sut i chwarae nodau a rhythmau gwahanol ac maen nhw'n hyderus iawn yn perfformio erbyn hyn. Roedd bob un ohonynt yn wych fore dydd Gwener ac roedd y rhieni / gwarchodwyr wedi mwynhau yn fawr.
Diolch yn fawr i bob un a diolch yn fawr i Miss Rich am ei holl waith caled dros y flwyddyn.
Diolch yn fawr.