Trefniadau Mis Medi:
![Trefniadau Mis Medi:](/images/articles/image_2345_1470173565.jpg)
2nd August 2016
Bydd y tymor newydd yn dechrau ar gyfer y disgyblion ar ddydd Llun, Medi'r 5ed.
Bydd dau ddiwrnod o Hyfforddiant Mewn Swydd ar gyfer staff ar ddydd Iau, Medi'r 1af a dydd Gwener, Medi'r 2il.
Dyddiadau eraill i'w nodi:
Medi'r 13eg: Diwrnod Roald Dahl.
Byddai Roald Dahl wedi dathlu ei ben-blwyddyn yn 100 eleni ac, fel cenedl, byddwn yn cael diwrnod arbennig i ddathlu ar ddydd Mawrth, Medi'r 13eg.
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol fel cymeriad o un o lyfrau Roald Dahl os ydynt yn dymuno.
Diwedd yr hanner tymor:
Dydd Gwener, Hydref 21ain.
Diwedd tymor yr Hydref:
Dydd Gwener, Rhagfyr 16eg.
Diolch yn fawr.