Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

4th September 2016

Dyma rai o'r trefniadau ar gyfer Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r disgyblion yn ôl i'r ysgol yfory.

Byddwch yn derbyn llythyr pwysig ddydd Mawrth yn amlinellu unrhyw wybodaeth bwysig ar gyfer dechrau'r flwyddyn gan gynnwys dyddiadau pwysig; gwybodaeth am wersi ymarfer corff eich plentyn a gwybodaeth am glybiau ar ôl ysgol ayyb.
(Fydd dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth.)

SCHOOP: (ID SCHOOP yw 10319)
Cofiwch newid eich gosodiadau ar SCHOOP, gan sicrhau eich bod yn dewis blwyddyn ysgol a dosbarth newydd eich plentyn. Bydd hwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth berthnasol gan athrawes eich plentyn. (Ewch i'r gosodiau yn SCHOOP ar y gwaelod, ewch mewn i 'Ysgol Gymraeg Cwmbrân' ac yna ewch mewn i'r gosodiadau er mwyn newid y flwyddyn ysgol a'r grwpiau.)

Os oes angen cymorth arnoch gyda'r app SCHOOP, cysylltwch gyda Miss Passmore neu Miss Faulknall gydag unrhyw gwestiynau sydd gyda chi.

Gwelwn ni chi yfory.
Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr