Adran yr Urdd Pontypwl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3 i 6:

Adran yr Urdd Pontypwl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3 i 6:

4th September 2016

Bydd Adran yr Urdd Pontypwl yn ail ddechrau ar nos Lun, Medi'r 12fed. Am fwy o wybodaeth, gweler isod:

Beth am annog eich plant i ymarfer siarad Cymraeg tu allan i oriau ysgol?

Ydych chi am i'ch plant gymdeithasu yn Gymraeg tu allan i oriau ysgol mewn awyrgylch diogel?

Mae Urdd Gobaith Cymru yn rhedeg Adran Gymunedol ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd Cymraeg Torfaen.

Os oes diddordeb gyda chi dewch i NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL AR NOS LUN RHWNG 4.30PM – 6PM am £1 y sesiwn. Byddai’n braf eich gweld yno.

CROESO I BAWB YM MLWYDDYN 3-6.

Bydd cyfle i'r disgyblion gwrdd â disgyblion o ysgolion Cymraeg eraill yr ardal. Byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau coginio, cyfridiadurol, ffilm, chwaraeon, crefftau a llawer mwy.

Am fwy o fanylion, cysylltwch gyda Helen Greenwood, Swyddog Datblygu URDD GOBAITH CYMRU ar 01495 350155.

Gobeithiwn eich gweld chi yno.


^yn ôl i'r brif restr