Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

8th September 2016

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw y feithrin ar gyfer yr wythnos yw coch.
Gall plant y feithrin ddod ag eitem goch i'r ysgol ddydd Llun os oes rhywbeth gyda nhw.

Dydd Llun:
* Gofynnwn yn garedig am yr holl ffurflenni gwybodaeth disgyblion yn ol erbyn heddiw. Mae'n hanfodol bod gennym ni'r wybodaeth ddiweddaraf am bob un o'n disgyblion ar ein system. *

Clwb yr Urdd, Pontypwl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3-6.
Mae'r clwb yn cael ei redeg yn Neuadd St. Iago, Hanbury Road, Pontypwl rhwng 4:30 a 6 bob nos Lun am £1 y sesiwn.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion o Ysgol Gymraeg Cwmbrân i gymysgu gyda disgyblion o ysgolion Cymraeg eraill yr ardal.
(Does dim rhaid i'r disgyblion fod yn aelodau o'r Urdd i fynychu'r clwb hwn.)
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Helen Greenwood ar 01495 350155.

Dydd Mawrth:
Diwrnod Roald Dahl:
Byddwn yn dathlu pen-blwydd Roald Dahl yn 100 heddiw.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn treulio'r sesiwn gyntaf yn y dosbarthiadau gwahanol. Byddant yn darllen rhai o lyfrau Roald Dahl i'r disgyblion a byddant yn arwain gweithgareddau amrywiol.
Bydd y disgyblion yn gwneud gwaith gwahanol ar Roald Dahl yn ystod y dydd yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadleuthau amrywiol.
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol wedi gwisgo fel cymeriad o un o lyfrau Roald Dahl os ydynt yn dymuno. Bydd gwobrau am y gwisgoedd gorau.

Cyfarfod P.T.A o 4:30 - 5:30 yn llyfrgell yr ysgol.
Croeso i aelodau hen a newydd.

Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.
Bydd angen dillad nofio a thywel ar y disgyblion ar y diwrnod hwn.
Byddant yn mynd i nofio yn ystod y sesiwn gyntaf.

Bydd gweithdai creadigol Ffa La La yn cael eu cynnal yn yr ysgol heddiw ar gyfer dosbarthiadau'r Cyfnod Sylfaen.

Dydd Gwener:
Gwers hoci blwyddyn 6.

Nodyn Atgoffa:
Llangrannog ar gyfer blynyddoedd 5 a 6:
Gofynnwn yn garedig am weddill yr arian erbyn dydd Llun, Hydref 3ydd os gwelwch yn dda. Cost y daith yw £146. Byddwn yn derbyn mwy o wybodaeth am amseroedd ayyb yn ystod yr wythnosau nesaf.

APP SCHOOP: (10319)
Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau eich bod chi wedi newid gosodiadau SCHOOP ar eich ffon er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf gan athro / athrawes eich plentyn.

Gwisg ysgol:
Gofynnwyn yn garedig i chi sicrhau bod dillad ac eitemau personol eich plentyn wedi'i labeli'n glir gydag enw eich plentyn.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr