Diwrnod Roald Dahl:
![Diwrnod Roald Dahl:](/images/articles/image_2363_1473765377.jpg)
13th September 2016
Heddiw, rydym yn dathlu pen-blwydd Roald Dahl yn 100 mlwydd oed yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Mae'r disgyblion wedi gwisgo fel rhai o gymeriadau Roald Dahl heddiw o George i'r CMM, o Sophie i Miss Honey ac o Charlie Bucket i Verruca Salt. Roedd y disgyblion i gyd yn edrych yn hyfryd yn y gwasanaeth y bore 'ma. Bydd gwobrau i'r enillwyr ar ddiwedd y dydd.
Yn ystod y wers gyntaf, aeth tri o ddisgyblion blwyddyn 6 i bob dosbarth er mwyn rhoi cyflwyniad ar Roald Dahl ac er mwyn gosod tasg o greu jar breuddwydion i bob disgybl. Bydd y rhai gorau yn cael eu cyhoeddi yn y gwasanaeth ar ddiwedd y dydd.
Mae nifer o weithgareddau eraill o'n blaenau prynhawn 'ma.
Pen-blwydd Hapus Roald Dahl!