Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

6th October 2016

Dyma'r trefniadau ar gyfer yr wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Lliw yr wythnos ar gyfer plant y feithrin yw melyn.

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Plant y Cyfnod Sylfaen: Mae'n ddrwg gyda fi.
Disgyblion Cyfnod Allweddol 2: Wyt ti'n hoffi....? Ydw / Nac ydw.

Dydd Llun:

Bydd disgyblion CA2 i gyd yn gwylio sioe Roald Dahl yn yr ysgol. Bydd y sioe wedi'i pherfformio gan gwmni theatr 'Mewn Cymeriad'.

Clwb yr Urdd, Pontypwl ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3-6.
Mae'r clwb yn cael ei redeg yn Neuadd St. Iago, Hanbury Road, Pontypwl rhwng 4:30 a 6 bob nos Lun am £1 y sesiwn.

Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos - neuadd yr ysgol am 09:10.

Clwb coginio i flwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes rhwng 3:30 a 4:30. (£1)

Ymarfer cor o 3:30 - 4:30.

Dydd Mercher:

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i ffilmio rhaglen deledu yng Nghaerdydd heddiw. Byddant yn gadael yr ysgol am 07:15 a bydd angen pecyn cinio ar bob un. Gall y disgyblion wisgo eu dillad ymarfer corff i'r ysgol a bydd angen pwmp asthma ar rai sy'n dioddef o asthma.

Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol.
09:30-11:30.

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(Dim Clwb Ysgrifennu Creadigol gan fod yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6.)

Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Broad.

Bydd gweithdai creadigol Ffa La La yn cael eu cynnal yn yr ysgol heddiw ar gyfer dosbarthiadau'r Cyfnod Sylfaen.

Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn derbyn gweithdy ar e-ddiogelwch gan PC Thomas am 2 o'r gloch heddiw.

Gweithdy e-ddiogelwch i rieni / gwarchodwyr:
Ydych chi'n poeni am gadw eich plentyn yn saff ar lein? Os ydych chi, dewch i siarad gyda PC Thomas mewn gweithdy ar e-ddiogelwch yn nosbarth Mr Bridson rhwng 3:30 a 3:40.

Clwb ffitrwydd gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Gwener:

Gwers ffidil blwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes rhwng 09:10 a 10:10.

Gwers hoci blwyddyn 6.

Stondin gacennau y PTA ar ol ysgol. 3:30 yn nosbarth Mr Bridson / ar yr iard.
Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad o gacennau sydd wedi eu gwneud neu eu prynu.

Dydd Sadwrn:
Bore coffi PTA. Canolfan Gymunedol St. Dials. 10:30 - 11:30. Dewch i ddargangod mwy am waith y Gymdeithas Rieni ac Athrawon.

Diolch.


^yn ôl i'r brif restr