Ffilmio Blwyddyn 6:
10th October 2016
Nodyn i rieni / gwarchodwyr blwyddyn 6 i’w hatgoffa am y ffilmio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 ddydd Mercher.
Byddwn yn gadael yr ysgol am 07:15 y bore i gyrraedd Caerdydd erbyn 8. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu aros am ddisgyblion sy’n hwyr. Bydd angen i’r disgyblion ddod i’r ysgol yn eu dillad chwaraeon a bydd angen pecyn cinio ar bob un os gwelwch yn dda. Os ydy eich plentyn yn dioddef o asthma, bydd angen pwmp arno.
Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, cysylltwch gyda Miss Passmore.