Gwasanaeth Diolchgarwch:
![Gwasanaeth Diolchgarwch:](/images/articles/image_2404_1476431680.jpg)
14th October 2016
Gwasanaeth Diolchgarwch - Dydd Iau 20 Hydref, 2016
Eleni, hoffem dynnu sylw'r disgyblion at yr her y wynebir gan y digartref yn ystod ein Gwasanaeth Diolchgarwch. Yn y blynyddoedd diwethaf yr ydym wedi gofyn am gyfraniad ariannol, ond gofynnwn yn garedig i chi gyfrannu un o'r canlynol eleni:
Tomatos tun
UHT / Cwstard mewn tun
Llysiau tun
Tatws tun
Byddwn yn pasio yr holl eitemau i'r Banc Bwyd a diolchwn i chi ymlaen llaw am eich cyfraniadau.
Diolch yn fawr.