Llongyfarchiadau i'r tîm pêl-droed heddiw:
![Llongyfarchiadau i'r tîm pêl-droed heddiw:](/images/articles/image_2407_1476894438.jpg)
18th October 2016
Aeth rhai o chwaraewyr blynyddoedd 5 a 6 i gystadlu mewn cystadleuaeth bêl-droed yn Stadiwm Cwmbrân heddiw.
Aeth 11 o ddisgyblion gyda Mr Bridson i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Chwaraeon nhw yn erbyn ysgolion eraill o'r ardal leol ac aethon nhw i'r rownd cyn derfynol lle collon nhw i Ysgol Gynradd George Street.
Da iawn i bob un am chwarae heddiw - mae'r tîm yn edrych ymlaen at fwy o gystadlu yn ystod y flwyddyn.
Diolch.