Tiniau bwyd i'r banc bwyd:

Tiniau bwyd i'r banc bwyd:

20th October 2016

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu tinau bwyd eleni.

Ar gyfer y gwasanaeth diolchgarwch eleni, yn lle gofyn am gyfraniad ariannol, penderfynon ni ofyn am dinau bwyd ar gyfer banc bwyd lleol.

Hyd yn hyn, mae dros 800 o dinau bwyd wedi cael eu casglu a, fel gallwch werthfawrogi, bydd hwn yn help mawr i deuluoedd yr ardal. Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn gwerthfawrogi'n fawr.

Bydd y tinau yn cael eu casglu yfory felly mae dal cyfle i ddod â rhai mewn i'r ysgol.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.


^yn ôl i'r brif restr