Newyddion yr Hanner Tymor:

Newyddion yr Hanner Tymor:

21st October 2016

Mae wedi bod yn hanner tymor prysur iawn yma yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. Dyma rai o’r pethau sydd wedi bod yn digwydd hyd yn hyn:

• Mae plant blwyddyn 2 dosbarth Miss Hughes wedi mwynhau derbyn gwersi ffidil bob bore dydd Gwener. Bydd y gwersi hyn yn parhau yn ystod yr hanner tymor nesaf. Bydd dosbarth Mrs Dalgeish yn derbyn gwersi cyn diwedd y flwyddyn.
• Mae disgyblion blwyddyn 5 dosbarth Miss Faulknall yn derbyn gwersi pêl-droed pythefnosol gan Glwb Pêl-droed Casnewydd. Bydd dosbarth Mr Bridson a Miss Passmore yn derbyn gwersi eleni hefyd.
• Mae disgyblion blwyddyn 6 wedi dechrau derbyn gwers hoci bob prynhawn dydd Gwener gan John Burrows, sy’n gyfrifol am hoci yng Ngwent.
• Mae plant y Feithrin, Derbyn a Blwyddyn 1 wedi mwynhau cwrs chwech wythnos o ddosbarthiadau cerddorol a chreadigol gan gwmni ‘Ffa La La’.
• Roedd pawb wedi mwynhau dathlu a gwisgo lan ar gyfer Diwrnod Roald Dahl ym mis Medi ac roedd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 wedi mwynhau sioe Roald Dahl gan gwmni ‘Mewn Cymeriad’ yn gynharach yn y mis.
• Mae disgyblion blynyddoedd 3 a 4 i gyd wedi mwynhau taith i Amgueddfa Pontypwl i ddysgu mwy am yr Ail Ryfel Byd, sef ein thema y tymor hwn. Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn gwylio sioe ar y Blits ym mis Tachwedd.
• Teithiodd disgyblion blwyddyn 6 i stiwdio Enfys yng Nghaerdydd yn gynnar un bore er mwyn cymryd rhan mewn sioe deledu newydd o’r enw ‘Piga dy drwyn’. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Ionawr.
• Cymerodd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ran mewn cystadleuaeth lawysgrifen a feirniadwyd gan Miss Evans. Y dasg oedd i ysgrifennu cerdd ‘The Evacuee’ yn eu llaw ysgrifen gorau. Llongyfarchiadau i’r enillwyr o bob dosbarth.
• Mae disgyblion blynyddoedd 1 i 6 wedi derbyn gwybodaeth mewngofnodi ar gyfer Purple Mash. Mae gan y disgyblion cyfrifon ar Sumdog, Purplemash a HWB bellach ac maent i gyd yn mwynhau defnyddio’r llwyfannau dysgu hyn adref ac yn yr ysgol.
• Mae’r côr wedi bod yn brysur yn ymarfer ar gyfer cyngerdd yn y Royal Albert Hall ym mis Tachwedd. Bydd y disgyblion a’u rhieni / gwarchodwyr yn teithio i Lundain gyda ‘Gwent Music’ ar gyfer perfformio gyda rhai o ysgolion eraill yr ardal.
• Aeth 54 o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 i Langrannog ar ddechrau mis Hydref gydag wyth aelod o staff. Mwynhaodd y disgyblion yn fawr iawn. Mae dros 105 o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 wedi ymaelodi gyda’r Urdd yn barod eleni.
• Mae’r broses o bontio rhwng blwyddyn 6 a’r ysgol uwchradd wedi dechrau gydag ymweliad gan Miss Rhian James a Miss Helen Rogers o Ysgol Gyfun Gwynllyw. Gwahoddir rhieni a gwarchodwyr disgyblion Blwyddyn 6 i gyfarfod yng Ngwynllyw ar Dachwedd 8fed.
• Mae disgyblion Blwyddyn 4 Miss Broad wedi bod yn derbyn gwersi nofio bob bore dydd Iau. Bydd y gwersi yn parhau yn ystod yr hanner tymor nesaf.
• Elusennau: Mae llawer o waith wedi’i wneud ar gyfer elusennau yn barod yr hanner tymor hwn sef:
Bore Coffi Macmillan: Codwyd £585 yn ystod ein bore coffi ar ddiwedd mis Medi.
Casglwyd dros 1 000 o dinau bwyd ar gyfer banc bwyd Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghwmbrân ar gyfer ein gwasanaeth diolchgarwch.
Ein helusen ar gyfer eleni, a ddewiswyd gan y cyngor, yw ‘Noah’s Ark appeal’.
• Cynhaliwyd etholiadau ar gyfer Prif Swyddogion, Cyngor yr Ysgol a’r Eco Bwyllgor. Mae’r timoedd hyn, gan gynnwys ein tîm o arweinwyr digidol, bellach wedi’u sefydlu ac maent yn gweithio’n galed iawn. Mae’r cyngor yn edrych ymlaen at gynnal cyfarfod yn Neuadd y Sir ar ddechrau mis Tachwedd.
• Mae clybiau ar ôl ysgol wedi dechrau ac mae llawer o ddisgyblion yn eu mynychu. Maent yn cynnwys:
Dydd Mawrth: Clwb coginio dosbarth Miss Hughes / Ymarfer côr
Dydd Mercher: Clwb yr Urdd / Clwb Ysgrifennu Creadigol 5 a 6
Dydd Iau: Arweinwyr Digidol / Clwb rygbi / Clwb ffitrwydd
Dydd Gwener: Clwb HWB yn ystod amser cinio
Bydd clybiau darllen, garddio a gwyddbwyll yn dechrau ar ôl hanner tymor.
• Ar hyn o bryd, presenoldeb yr ysgol yw 95.78%. Ein targed ar gyfer y flwyddyn yw 95.6%. Dosbarthiadau Miss Hughes a Mrs Dalgleish sydd wedi ennill presenoldeb y mis hyd yn hyn a chafodd y disgyblion gyfle i wisgo gwisg anffurfiol i’r ysgol.
• Aeth rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 i gymryd rhan mewn cystadleuaeth bêl-droed yn Stadiwm Cwmbrân yr wythnos hon ac roeddent yn ddigon lwcus i gyrraedd y rownd cyn derfynol.
• Cynhaliwyd gweithdy ar e-ddiogelwch gyda disgyblion Blwyddyn 6 gan PC Thomas. Gwahoddwyd rhieni a gwarchodwyr i’r ysgol i ddysgu am e-ddiogelwch ar ôl ysgol. Bydd PC Thomas yn bresennol yn y ffair Nadolig yn ogystal.
• Cynhelir gwersi Cymraeg yn yr ysgol gan Goleg Gwent. Mae’r gwersi hyn yn digwydd yn wythnosol rhwng 9 ac 11 ar ddydd Mercher yn llyfrgell yr ysgol.
• C.Rh.A: Mae’r G.Rh.A wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn barod eleni ac maent wedi codi £91 trwy gynnal stondin gacennau ar ôl ysgol a £279 yn y disgo neithiwr. Mae’r G.Rh.A wedi cyfrannu £1 000 tuag at brynu llyfrau darllen grŵp ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen. Diolch yn fawr i’r holl aelodau am eu gwaith caled dros yr ysgol. Bydd cyfarfod blynyddol y G.Rh.A yn digwydd ar nos Iau, Tachwedd 3ydd am 3:30. Croeso cynnes i bawb.

Diolch yn fawr iawn am eich holl cefnogaeth yn ystod yr hanner tymor cyntaf. Edrychwn ymlaen at groesawu’r disgyblion yn ôl i’r ysgol ar ddydd Llun, Hydref 31ain.
Diolch yn fawr.

Cofiwch:
SCHOOP: 10319
Gwefan yr ysgol: www.ysgolgymraegcwmbran.co.uk


^yn ôl i'r brif restr