Gweithdai yr NSPCC:
![Gweithdai yr NSPCC:](/images/articles/image_2572_1488527157.jpeg)
3rd March 2017
Cafodd y disgyblion i gyd eu cyflwyno i waith yr NSPCC yr wythnos hon.
Daeth cynrychiolwyr o'r NSPCC i gyflwyno ymgyrch 'Cofia ddweud a Chadwa'n Ddiogel' yr wythnos hon. Derbyniodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 weithdai mwy manwl ar yr ymgyrch. Gweithiodd y disgyblion yn galed iawn yn y gweithdai.
Mae bob disgybl wedi derbyn ffurflen noddi. Wythnos nesaf, bydd pob dosbarth yn gwneud gweithgaredd cadw'n heini noddedig a byddwn yn casglu arian tuag at yr NSPCC. Gofynnwn yn garedig am yr arian erbyn dydd Llun, Mawrth 13eg.
Diolch yn fawr.