Diwrnod y Llyfr:
![Diwrnod y Llyfr:](/images/articles/image_2577_1488552451.jpg)
3rd March 2017
Cafwyd Diwrnod y Llyfr llwyddiannus iawn yn yr ysgol ddoe.
Roedd hi'n hyfryd gweld y disgyblion ac aelodau o staff wedi gwisgo fel cymeriadau gwahanol o lyfr. Cafwyd diwrnod llawn hwyl gydag amrywiaeth o weithgareddau a chystadlaethau gwahanol yn cael eu gwneud yn ystod y dydd.
Defnyddiodd disgyblion blwyddyn 6 raglen 2quiz ar Purple Mash i greu cwis ar Ddiwrnod y Llyfr a chafodd pob grwp gyfle i fynd i ddosbarthiadau gwahanol er mwyn profi'r disgyblion.
Diolch i Miss Williams am drefnu'r dydd a diolch i chi am gefnogi.