Gweithdai Ffa La La:
3rd March 2017
Am y chwech wythnos nesaf, bydd disgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn derbyn awr o weithdy gan Ffa La La bob dydd Iau.
Bydd y gweithdai yn helpu datblygu sgiliau creadigol y disgyblion trwy weithgareddau cerddorol ac offerynnol. Bydd y gweithdai wedi'u selio ar themâu y dosbarthiadau sef Tsieina (Blwyddyn 3) a'r Aifft (Blwyddyn 4).
Ddoe, mwynhaodd y disgyblion weithdy'n seiliedig ar lyfr Bethan Gwanas, 'Coeden Cadi' gan ein bod yn dathlu Diwrnod y Llyfr yn yr ysgol.
Edrychwn ymlaen ar y pum wythnos nesaf.