Trefniadau'r Wythnos:
![Trefniadau'r Wythnos:](/images/articles/image_2591_1489159027.jpg)
10th March 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Patrwm Iaith yr Wythnos: Y gwahaniaeth rhwng ‘Sut wyt ti?’ a ‘Sut ydych chi?’
Band yr wythnos: Fleur de Lys - Cofia Anghofia a Bywyd braf.
Dydd Llun:
Gwasanaeth NSPCC.
(Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod y ffurflenni noddi yn ol erbyn heddiw os gwelwch yn dda.)
Bydd grŵp COMMIT yn ymweld â Byddin yr Iachawdwriaeth heddiw.
Gweithdy Spectrum ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 a 6 heddiw.
Gwersi Addysg Gorfforol Superstars ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 heddiw.
Clwb yr Urdd - Pontypwl. (4:30 - 6) £1
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Taith dosbarth Miss Williams i TESCO heddiw.
(Bydd angen gwisg ysgol a bydd y disgyblion yn ôl mewn amser i gael cinio.)
Clwb gwnïo ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 o 3:30 - 4:30.
Ymarfer côr o 3:30 - 4:30.
Dydd Mercher:
Taith dosbarth Miss Westphal i TESCO heddiw.
(Bydd angen gwisg ysgol a bydd y disgyblion yn ôl mewn amser i gael cinio.)
Gwersi Cymraeg i rieni yn llyfrgell yr ysgol. 09:30-11:30.
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30. (£1)
Ymarfer ymgom ar ôl ysgol tan 4:30.
Dydd Iau:
Gweithdai Creadigol Ffa La La gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4.
Bydd grŵp COMMIT yn ymweld â Tesco heddiw.
Bydd yr Asiantaeth Hylendid Bwyd yn dod i gynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 5 heddiw.
Bydd yr WRU yn cynnal sesiwn hyfforddi gyda merched blwyddyn 3 heddiw. (1 - 1:45)
Gwers nofio ar gyfer disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths.
Clwb pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 rhwng 3:30 a 4:30.
Ymarfer dawnsio disgo ar gyfer yr Eisteddfod o 3:30 - 4:30.
Dydd Gwener:
Bydd Bardd Plant Cymru yn cynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 4 heddiw.
Bydd Braces Bread yn cynnal gweithdy gyda phlant blwyddyn 1 heddiw.
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish. (09:10 - 10)
Clwb HWB yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion CA2.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Dydd Sadwrn:
Eisteddfod Gylch yr Urdd - Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth am amseroedd ayyb pan rydyn yn derbyn yr wybodaeth o'r Urdd.
Diolch yn fawr.