Gweithgareddau codi arian ar gyfer yr NSPCC:
![Gweithgareddau codi arian ar gyfer yr NSPCC:](/images/articles/image_2593_1489172898.jpeg)
10th March 2017
Da iawn i bawb sydd wedi gweithio mor galed i godi arian yr wythnos hon.
Mae'r disgyblion wedi cymryd rhan mewn nifer fawr o weithgareddau gwahanol
er mwyn codi arian ar gyfer yr NSPCC yr wythnos hon.
Mae rhai dosbarthidau wedi rhedeg, rhai wedi cerdded a rhai wedi cymryd rhan mewn Gemau Olympaidd neu sesiynau ffitrwydd.
Bydd yr NSPCC yn cynnal gwasanaeth fore dydd Llun lle byddwn yn rhoi'r arian a gasglwyd iddynt. Gofynnwn yn garedig i chi ddanfon unrhyw ffurflenni ac arian mewn erbyn dydd Llun os gwelwch yn dda.
Diolch yn fawr iawn am eich holl gefnogaeth gydag achos mor teilwng.
Diolch.