Enwi stryd yn yr ardal leol:
11th July 2017
Llongyfarchiadau i ddisgybl ym mlwyddyn 2 am ennill cystadleuaeth i enwi stryd newydd yn yr ardal leol.
Mae Melin Homes yn datblygu stryd newydd o dai yn ein hardal leol. Ychydig o wythnosau yn ôl, gofynnwyd i'r disgyblion feddwl am enw addas ar gyfer y stryd a meddyliodd un bachgen am yr enw 'Cwrt y Gamlas'. Bydd yr enw yn ymddangos ar y stad newydd o dai.
Roedd y disgybl yn ddigon ffodus i ennill swm mawr o arian gan y cwmni yn ogystal.
Diolch yn fawr a da iawn!