Gig Siarter Iaith:
14th July 2017
Bydd disgyblion CA2 i gyd yn mwynhau gig gan fand Daniel Lloyd a Mr Pinc heddiw.
Fel rhan o gyflwyniad y Siarter Iaith, rydym wedi bod yn cyflwyno band yr wythnos yn yr ysgol bob wythnos. O ganlyniad, mae'r disgyblion wedi dod yn gyfarwydd gyda nifer o fandiau ac unawdwyr Cymraeg. Un o'r bandiau hynny yw Daniel Lloyd a Mr Pinc. Mae'r disgyblion i gyd wedi bod yn gyffrous iawn a byddwn yn ymuno gydag ysgolion eraill yr ardal er mwyn gwrando ar y gyngerdd.
Diolch yn fawr i Miss Davies am ei holl waith caled gyda'r trefnu.