Trefniadau mis Medi yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
29th August 2017
Edrychwn ymlaen at groesawu'r disgyblion yn ôl i'r ysgol wythnos nesaf.
Gobeithio eich bod chi gyd wedi cael gwyliau haf da a bod pawb yn edrych ymlaen at ddechrau blwyddyn newydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Bydd yr ysgol ar gau i'r disgyblion ddydd Llun, Medi'r 4ydd gan fod diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd i'r staff.
Bydd yr ysgol yn ail ddechrau i'r disgyblion ddydd Mawrth, Medi'r 5ed.
Yn ystod yr wythnos gyntaf, byddwch yn derbyn pecyn bydd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â threfniadau gwaith cartref eich plentyn, trefniadau gwersi ymarfer corff a llawer o wybodaeth bwysig arall. Bydd pawb yn derbyn ffurflen wybodaeth i'w llenwi ar gyfer eich plentyn a gofynnwn am y ffurflenni hyn yn ôl cyn gynted ag y bo modd. Mae'r ffurflenni hyn yn golygu bod gennym ni'r wybodaeth ddiweddaraf am bob plentyn.
Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys dyddiadau pwysig, megis nosweithiau rhieni ayyb.
Bydd copi o'r llythyr ar gael ar y wefan yn ogystal, yn y rhan 'Llythyron Adref'.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi gyd ddydd Mawrth.
Diolch.