Llythyr Llangrannog:
7th September 2017
Bydd y disgyblion sy'n mynd i Langrannog yn dod â llythyr adref gyda nhw heno.
Rydych eisoes wedi talu blaendal (£30) ar gyfer taith Llangrannog eleni. Byddwn yn mynd i Langrannog rhwng y 6ed a’r 8fed o Hydref a chost y daith fydd £147.
Gofynnwn am weddill yr arian i gael ei dalu erbyn dydd Llun, Hydref 2il. (Mae rhai wedi talu’r arian i gyd neu wedi talu rhan ohono – ceir cofnod o’r arian hyn yn swyddfa’r ysgol.)
Rydym yn gobeithio derbyn ffurflenni meddygol o’r Urdd wythnos nesaf felly byddwn yn danfon rhain adref cyn gynted ag y bo modd. Gyda’r ffurflenni meddygol, bydd llythyr yn amlinellu’r manylion terfynol ac yn rhoi gwybodaeth i chi am amseroedd a’r hyn sydd angen i’ch plentyn fynd gyda fe/hi.
Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi am y daith i Langrannog, cysylltwch gyda fi.
Diolch, Miss Passmore