Trefniadau’r Wythnos:
8th September 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth.**
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Mae .... gyda fi e.e. Mae brechdanau gyda fi.
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw 'Swnami'.
Byddwn yn gwrando ar 'Fioled' a 'Dihoeni' yn yr ysgol.
Lliw yr wythnos i’r feithrin yw coch.
Dydd Mawrth:
Ymarfer Shakespeare tan 4:30.
(Mae’r rhai sydd angen aros wedi derbyn llythyr.)
Dydd Mercher:
Diwrnod Roald Dahl:
Byddwn yn dathlu diwrnod Roald Dahl yn yr ysgol heddiw. Gall y disgyblion ddod i’r ysgol wedi gwisgo fel cymeriad o lyfr Roald Dahl os ydynt yn dymuno.
Dydd Iau:
Gall plant y feithrin wisgo dillad coch / eitem o ddillad coch i'r ysgol heddiw gan mai coch yw eu lliw yr wythnos hon.
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Griffiths.
Cyfarfod PTA yn yr ysgol ar ôl ysgol. 3:30 yn y llyfrgell. Croeso cynnes i bawb.
Dydd Gwener:
Byddwn yn dathlu diwrnod Owain Glyndwr yn yr ysgol heddiw.
Diolch yn fawr.