Diwrnod Roald Dahl:

Diwrnod Roald Dahl:

13th September 2017

Dathlon ni Ddiwrnod Roald Dahl yn yr ysgol heddiw.

Daeth nifer fawr o gymeriadau mewn trwy ddrysau'r ysgol bore 'ma, o'r CMM i Charlie Bucket ac o Matilda i un o'r gwrachod. Gweithiodd y disgyblion yn galed iawn ar amrywiaeth o weithgareddau yn ymwneud gyda Roald Dahl a'i gymeriadau a chafodd rhai disgyblion eu gwobrwyo am eu gwisgoedd yn y gwasanaeth.

Gallwch weld rhai lluniau o'r diwrnod ar dudalennau'r dosbarthiadau neu ar gyfrif Twitter yr ysgol. (@ygcwmbran)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr