Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

14th September 2017

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth.**

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Does dim .... gyda fi e.e. Does dim diod gyda fi.

Band yr Wythnos:

Band yr Wythnos yw 'Cowbois Rhos Botwnog'.
Byddwn yn gwrando ar 'Celwydd Golau Ydi Cariad' a 'Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn' yn yr ysgol.

Lliw yr wythnos i’r feithrin yw glas.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)

Ymarfer Shakespeare tan 4:30.
(Mae’r rhai sydd angen aros wedi derbyn llythyr.)

Dydd Mercher:

Bydd gwersi Cymraeg yn dechrau'n yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent.
09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Am fwy o wybodaeth ar y cwrs, edrychwch ar y linc isod.

Bydd cynrychiolydd o Glwb Pêl-droed Casnewydd yn cynnal sesiwn hyfforddi gyda dosbarth Mrs Haman heddiw am 1 o'r gloch.

Dydd Iau:

Bydd rhywun o 'Hedgehog Helpline Cymru' yn ymweld â disgyblion blynyddoedd 5 a 6 heddiw.
(Gweler y llythyr.)

Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Griffiths.

Dydd Gwener:
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes.
(09:10 - 10:10)

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr