Gweithdy Cymru FM:
17th September 2017
Roedd rhai o ddisgyblion blwyddyn 4 yn ddigon lwcus i gymryd rhan mewn gweithdy gyda 'Cymru FM' ddydd Mercher.
Daeth Marc Griffiths o 'Cymru FM' i'r ysgol i gynnal gweithdy radio gyda rhai o ddisgyblion blwyddyn 4. Dysgodd y disgyblion sut i greu rhaglen radio; sut i ychwanegu cerddoriaeth a sut i olygu eu gwaith. Roedd yn fore llawn hwyl.
Gwyliwch allan am fwy o wybodaeth ar y rhaglen radio yn y dyfodol agos!
Diolch.