Amser cylch:
18th September 2017
Bydd pob disgybl yn cymryd rhan mewn sesiwn amser cylch bob dydd Llun o heddiw ymlaen.
Bydd hwn yn rhoi cyfle i'r disgyblion rannu eu newyddion a'u teimladau ar fore dydd Llun. Teimlwn y bydd hwn yn rhoi cyfle i'r disgyblion fynegi eu hunain a bydd hefyd yn rhoi mwy o gyfle iddynt rannu eu profiadau.
Gobeithiwn y byddwn yn gweld effaith gadarnhaol ar hyder y disgyblion trwy gydol y flwyddyn.
Diolch.