Bore Coffi Macmillan:
20th September 2017
Mae'r disgyblion wedi dod â gwahoddiad i fore coffi Macmillan adref gyda nhw heno.
Ar ddydd Gwener, Medi'r 29ain, byddwn yn cynnal bore coffi Macmillan yn yr ysgol. Bydd tair sesiwn trwy gydol y dydd ac isod, ceir amser penodol ar gyfer bob dosbarth.
9:30 - 10:30:
Miss Baker, Miss Sheppeard, Miss Hughes a Mrs Dalgleish
10:45 - 11:45:
Miss Westphal, Miss Broad, Mrs Griffiths-Jones a Miss Williams
1:30 - 2:20:
Mrs Haman, Mr Bridson a Miss Passmore
Mae croeso i chi ymuno gyda ni ar y diwrnod. Bydd unrhyw arian sy'n cael ei gasglu yn mynd i waith ymchwil Macmillan.
Gobeithio eich gweld chi yno.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan isod.
Diolch.