Gwybodaeth Llangrannog ar gyfer blynyddoedd 5 a 6:

Gwybodaeth Llangrannog ar gyfer blynyddoedd 5 a 6:

22nd September 2017

Bydd y disgyblion sy'n mynd i Langrannog yn dod â llythyr pwysig adref gyda nhw heno.

Gofynnaf yn garedig am yr holl ffurflenni iechyd yn ôl erbyn dydd Llun os gwelwch yn dda. (25.09.17)

• Byddwn yn gadael yr ysgol tua 10 o’r gloch ar y dydd Gwener. (Amser i’w gadarnhau.)
• Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain i’r ysgol ar y diwrnod hwnnw.
• Bydd angen digon o ddillad cynnes ar y disgyblion, gan gynnwys côt law, sgarff, menig ayyb.
• Bydd angen ‘dillad disgo’ arnynt ar gyfer y nos Sadwrn.
• Bydd angen digon o ddillad (yn enwedig sanau) sbâr arnynt.
• Bydd angen dillad nofio ar y disgyblion.
• Bydd y disgyblion yn mynd ar geffylau felly, os oes alergedd gyda nhw, gadewch i fi wybod.
• Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod enw ar bob eitem, gan gynnwys tywelion.
• Rhaid i’r disgyblion ddod â sach gysgu a chlustog gyda nhw. (Gydag enw ar y bag.)
• Gall y disgyblion ddod â £10 er mwyn gwario yn y siop yno. Byddwn yn cadw’r arian yn saff mewn loceri felly byddai’n ddelfrydol petai’r arian yn cael ei roi mewn amlen / waled gydag enw’ch plentyn arno a bod yr arian mewn punnoedd yn hytrach na phapur £10. Gall y disgyblion gadw £2 i fynd gyda nhw ar y bws er mwyn gwario yn y gwasanaethau ar y ffordd os ydynt yn dymuno.
• Os ydy’r disgyblion yn dioddef o asthma, rhaid iddynt ddod â phwmp gyda nhw. Gwnewch yn siŵr bod enw ar y pwmp asthma os gwelwch yn dda.
• Os oes unrhyw foddion gyda’ch plentyn, gan gynnwys tabledi teithio, rhaid sicrhau bod rhain yn cael eu rhoi i fi ar y bore dydd Gwener. (Rhaid sicrhau bod enw ar bob eitem a bod llythyr yn esbonio beth i’w wneud a phryd i roi’r moddion, wedi’i lofnodi gan riant / warchodwr.)
• Does dim hawl gan unrhyw un i ddod â ‘straighners’ gyda nhw i Langrannog.
• Does dim angen ffonau symudol na IPODs ayyb chwaith.
• Byddwn yn gadael Llangrannog tua 12:30/1 ar y dydd Sul felly gobeithiwn fod yn ôl yn yr ysgol tua 3:30 / 4 o’r gloch. (Amser i’w gadarnhau.) Byddwn yn danfon SCHOOP allan pan rydyn ni’n gadael a byddwn yn diweddaru Twitter. Sicrhewch eich bod wedi arwyddo lan i’r ddau os gwelwch yn dda. (Twitter - @ygcwmbran / SCHOOP – 10319)

Os nad ydych chi wedi talu gweddill yr arian eto, gofynnwn yn garedig am yr holl arian erbyn dydd Llun, Hydref 2il os gwelwch yn dda. Os oes unrhyw gwestiwn gyda chi am y daith i Langrannog, cysylltwch gyda fi yn yr ysgol.

Diolch, Miss Passmore.


^yn ôl i'r brif restr