Ein llyfrau Siarter Iaith newydd:
![Ein llyfrau Siarter Iaith newydd:](/images/articles/image_2810_1506089677.jpg)
22nd September 2017
Bydd y disgyblion yn dod â'u llyfrau 'Siarter Iaith' adref gyda nhw heno.
Ein targed ar gyfer eleni yw i wella defnydd o'r Gymraeg yn ein hardal leol. Gobeithiwn y bydd y disgyblion yn gweithio'n galed i gwblhau'r targedau yn eu llyfrau dros y chwe wythnos nesaf. Byddwn yn gofyn am y llyfrau i gael eu dychwelyd erbyn dydd Mawrth, Tachwedd 7fed.
Os ydy eich plentyn yn gwneud rhywbeth trwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i'r ysgol, gofynnwn yn garedig i chi ysgrifennu hwn ar gyfrif Twitter yr ysgol. (@ygcwmbran)
Diolch yn fawr a phob lwc!