Cywaith Gwyddoniaeth Blwyddyn 6:
26th September 2017
Heddiw, daeth James, Gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd, i gyflwyno'r cywaith i ddisgyblion blwyddyn 6.
Dros y misoedd nesaf, bydd disgyblion blwyddyn 6 yn cymryd rhan mewn gweithdy Gwyddoniaeth ar y cyd gyda chwe ysgol gynradd arall yn yr ardal. Mae'r cywaith yn cael ei redeg gan Brifysgol Caerdydd a, dros y misoedd nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar yr elfen fioleg o wyddoniaeth.
Dechreuodd y wers heddiw trwy ganolbwyntio ar germau a chafwyd ymchwiliad mewn i amser ymateb y disgyblion. Mwynhaodd y disgyblion yn fawr iawn.
Diolch.