Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

28th September 2017

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth.**

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Oes .... gyda ti? Oes / Nac oes.

Band yr Wythnos:

Band yr Wythnos yw 'Clwb Cariadon'.
Byddwn yn gwrando ar 'Arwyddion' a 'Golau' yn yr ysgol.

Lliw yr wythnos i’r feithrin yw gwyrdd.

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)

Perfformiad gan yr athrawes delyn.

Dim ymarfer Shakespeare gan fod noson rieni.

Noson rieni.

Dydd Mercher:

** Lluniau unigol / teulu. **

Cystadleuaeth bêl-droed yn Stadiwm Cwmbrân.
(Mae'r disgyblion sy'n cystadlu wedi derbyn llythyr.)

Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent.
09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.

Noson rieni.

Dydd Iau:

** Gwasanaeth Diolchgarwch. **
Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o duniau ar gyfer banc bwyd lleol.

Gall plant y feithrin wisgo dillad gwyrdd i'r ysgol heddiw os ydynt yn dymuno.

Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths-Jones.

Dydd Gwener:

Gall disgyblion dosbarth Miss Heledd Williams wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Medi.

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes.
(09:10 - 10:10)

Sesiynau tenis ar gyfer disgyblion CA2.

Taith blynyddoedd 5 a 6 i Langrannog. Cadwch lygad ar Twitter (@ygcwmbran) er mwyn gweld lluniau o'r penwythnos.

Dydd Sul:

Bydd y disgyblion yn cyrraedd adref o Langrannog heddiw tua 4/5. Byddwn yn diweddaru Twitter a Schoop (10319) gyda'r amser y byddwn yn cyrraedd adref.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr