Dylunio cynhwysydd ar gyfer yr iard:
28th September 2017
Gosodwyd tasg dylunio cynhwysydd ar gyfer yr iard fel gwaith cartref wythnos ddiwethaf.
Gweithiodd disgyblion o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 6 yn galed iawn i ddylunio cynhwysydd ar gyfer yr iard. Mae Miss Evans wedi bod yn brysur yn beirniadu'r gystadleuaeth ac yn y gwasanaeth heddiw, cyhoeddwyd y tri ddaeth i'r brig.
Bydd y dyluniad cyntaf yn cael ei droi mewn i gynhwysydd newydd ar gyfer yr iard. Edrychwn ymlaen at weld y cynhwysydd terfynol ar yr iard yn y dyfodol agos.
Da iawn i bawb.