Bore Coffi Macmillan yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
29th September 2017
Cawsom fore coffi llwyddiannus iawn yn yr ysgol heddiw.
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi pobi, prynu a throi lan i'n bore coffi. Cawsom tair sesiwn i gyd yn ystod y dydd ac roedd nifer fawr o bobl yn bresennol trwy gydol y dydd.
Diolch yn fawr i'n harweinwyr digidol oedd wedi helpu yn ystod y sesiynau trwy gyflwyno unrhyw rieni newydd i wefan yr ysgol.
Y cyfanswm a wnaed tuag at Ymchwil Cancr Macmillan yw £535.10
(Diolch yn fawr i Emily Green sydd wedi bod yn brysur dros y penwythnos yn cynnal bore coffi ei hunan. Cyfarnodd hi £35 tuag at ein casgliad.)
Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth.