Taith Blynyddoedd 5 a 6 i Langrannog:

Taith Blynyddoedd 5 a 6 i Langrannog:

1st October 2017

Bydd llythyr gyda'r trefniadau terfynol yn cael ei ddanfon adref gyda'r disgyblion yfory.

Bydd 71 o ddisgyblion o flynyddoedd 5 a 6 yn mynd i Langrannog ddydd Gwener. Mae'r disgyblion wedi derbyn un llythyr yn amlinellu'r hyn sy'n rhaid iddynt fynd gyda nhw i Langrannog ond byddant yn derbyn llythyr gyda'r trefniadau terfynol yfory.

Dyma'r prif bethau sydd angen i chi eu gwybod:

Byddwn yn gadael yr ysgol am 10:15 ar y bore Gwener.

Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion gan y byddwn yn bwyta cinio ar y ffordd.

Gall y disgyblion rhoi eu bagiau ayyb yn neuadd yr ysgol pan maen nhw'n cyrraedd yr ysgol.

** Pwysig: Mae disgybl o ysgol arall ag alergedd gwael i gnau ac felly, mae Llangrannog wedi gofyn i ni sicrhau nad oes gan unrhyw un unrhyw fwydydd yn cynnwys cnau i Langrannog. **

Dylai unrhyw foddion, gan gynnwys tabledi teithio, gael eu rhoi i Miss Passmore ar y bore dydd Gwener.

Os oes unrhyw gwestiynau pellach gyda chi am y penwythnos, cysylltwch gyda Miss Passmore.

Am fwy o wybodaeth am Langrannog, edrychwch ar y wefan isod.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr