Trefniadau’r Wythnos:
5th October 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
** Mae clybiau ar ôl ysgol yr ailddechrau yr wythnos hon. **
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Wyt ti'n hoffi ....? Ydw / Nac ydw.
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw 'Band pres Llareggub'.
Byddwn yn gwrando ar 'Gweld y byd mewn lliw' a 'Cyrn pen' yn yr ysgol.
Lliw yr wythnos i’r feithrin yw melyn.
Dydd Llun:
Cyfarfod CRhA. 3:30 yn llyfrgell yr ysgol. Croeso cynnes i bawb.
Dydd Mawrth:
Ymweliad gan yr athletwr, Christian Malcolm.
(Gwasanaeth ar gyfer y CS a CA2)
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)
Ymarfer Shakespeare tan 4:30.
Clwb coginio ar gyfer dosbarth Miss Hughes tan 4:30. (£1)
Dydd Mercher:
Diwrnod T. Llew Jones: Byddwn yn dathlu bywyd a gwaith T. Llew Jones heddiw.
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent.
09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Gweithdy Shakespeare i'r rheiny sy'n cymryd rhan.
10-12:30 yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd.
Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion os gwelwch yn dda. / Gwisg ysgol.
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Dydd Iau:
Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Gall plant y feithrin wisgo dillad melyn i'r ysgol heddiw os ydynt yn dymuno.
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths-Jones.
Dydd Gwener:
** Gofynnwn yn garedig am dâl aelodaeth yr Urdd erbyn heddiw os gwelwch yn dda. **
(£7 - disgyblion CA2)
Clwb HWB yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes.
(09:10 - 10:10)
Diolch yn fawr.