Arolwg: Defnydd o'r Gymraeg yn siopau tref Cwmbrân:
5th October 2017
Aeth chwe disgybl i ganolfan siopa Cwmbrân heddiw er mwyn gwneud arolwg o'r defnydd o'r iaith Gymraeg.
Aeth y disgyblion gyda'u holiaduron i ddeg siop yng nghanolfan siopa Cwmbrân heddiw. Roedd ganddynt amrywiaeth o gwestiynau i'w gofyn wrth y rheolwyr. Bydd y disgyblion yn paratoi adroddiad o'u canfyddiadau i rieni / gwarchodwyr dros yr wythnosau nesaf.
Gwelon nhw mai siop Doodlebug oedd gyda'r nifer mwyaf o gardiau Cymraeg a chynnyrch Cymreig.
Roedd gan Marks and Spencers pedwar gweithiwr oedd yn siarad Cymraeg.
Roedd y disgyblion wedi llunio pamffled o eiriau allweddol Cymraeg ar gyfer bob siop felly maen nhw wedi eu dosbarthu i'r gweithwyr. Maen nhw hefyd wedi dosbarthu bathodynnau i'r gweithwyr sy'n gallu siarad Cymraeg er mwyn iddynt allu gwneud y siopwyr yn ymwybodol o hyn.
Bydd y disgyblion yn ceisio trefnu i gwrdd gyda rheolwyr y ganolfan siopa er mwyn trafod eu defnydd o'r iaith Gymraeg yng Nghwmbrân.
Da iawn i bawb.