Trefniadau’r Wythnos:

Trefniadau’r Wythnos:

12th October 2017

Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y gwahaniaeth rhwng 'pan' a 'pryd'.
e.e. Pan ddaeth yr athrawes mewn i'r dosbarth, ..... / Pryd mae'r wers?

Band yr Wythnos:

Band yr Wythnos yw 'Yws Gwynedd'.
Byddwn yn gwrando ar 'Trwy dy lygid di' a 'Sgrin' yn yr ysgol.

Lliw yr wythnos i’r feithrin yw pinc.

Dydd Llun:
Taith dosbarth Miss Passmore a Mr Bridson i Ganolfan Addysg Dwr Cilfynydd.
Bydd angen gwisg ysgol ar y disgyblion a throwsus sbâr. Bydd angen 'wellingtons' arnynt ar gyfer y gweithgaredd dwr.
Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion yn ogystal.
(Os nad ydych wedi talu am y daith, gofynnwn am gyfraniad o £3 cyn dydd Llun.)

Dydd Mawrth:

Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
(09:10 yn neuadd yr ysgol.)

Taith dosbarth Mrs Haman a blwyddyn 5 Miss Williams i Ganolfan Addysg Dwr Cilfynydd.
Bydd angen gwisg ysgol ar y disgyblion a throwsus sbâr. Bydd angen 'wellingtons' arnynt ar gyfer y gweithgaredd dwr.
Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion yn ogystal.
(Os nad ydych wedi talu am y daith, gofynnwn am gyfraniad o £3 cyn dydd Llun.)

Ymarfer Shakespeare tan 4:30.

Clwb coginio ar gyfer dosbarth Miss Hughes tan 4:30. (£1)

Noson rieni ar gyfer dosbarth Miss Baker.
(Wedi'i hail drefnu o'r noson rieni ddiwethaf.)

Dydd Mercher:

Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent.
09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.

Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio.
(12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson. Mae llythyr wedi cael ei ddanfon adref yn barod.)

Cystadleuaeth Hoci yn Stadiwm Cwmbrân.
**Mae'r gystadleuaeth wedi'i gohirio.**

Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Iau:

Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths-Jones.

** Clwb Clebran ar gyfer rhieni / gwarchodwyr sy'n siarad Cymraeg. **
Dewch i ymarfer eich Cymraeg a magu hyder mewn sefyllfa anffurfiol.
3:30 - 4:30 yn llyfrgell yr ysgol.

Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Gall plant y feithrin wisgo dillad pinc i'r ysgol heddiw os ydynt yn dymuno.

Dydd Gwener:

Clwb HWB yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)

Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes.
(09:10 - 10:10)

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr