Taith Blynyddoedd 5 a 6 i Ganolfan Ddŵr Cilfynydd:

Taith Blynyddoedd 5 a 6 i Ganolfan Ddŵr Cilfynydd:

16th October 2017

Aeth dosbarthiadau Miss Passmore a Mr Bridson i'r ganolfan ddŵr heddiw.

Mwynhaodd y disgyblion weithio ar lan yr afon heddiw. Dechreuodd y diwrnod gyda'r disgyblion yn mesur cyflymder llif yr afon ac yn ymchwilio mewn i'r gwahanol greaduriaid sy'n byw yn yr afon. Ar ôl dadansoddi'r canlyniadau, roedd y disgyblion yn gallu ymchwilio mewn i lefelau llygredd y dŵr.

Tasg y prynhawn oedd edrych mewn i'r system ymdreiddio. Edrychodd y disgyblion mewn i'r broses o lanhau'r dŵr sy'n cyrraedd y ganolfan.

Roedd yn ddiwrnod buddiol iawn a dysgodd y disgyblion llawer am ein system ddŵr.

Bydd dosbarth Mrs Haman a disgyblion blwyddyn 5 dosbarth Miss Williams yn mynd ar y daith yfory.

Diolch i Mr Bridson am drefnu'r daith.


^yn ôl i'r brif restr