Trefniadau’r Wythnos:
20th October 2017
Dyma'r trefniadau ar gyfer wythnos nesaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Wythnos Gwerthoedd:
Byddwn yn gwahodd rhieni / gwarchodwyr / aelodau o'r teulu i ddod i dreulio sesiwn gyda'r disgyblion.
(Gweler y llythyr blaenorol a'r amseroedd isod.)
Patrwm Iaith yr Wythnos:
Y gwahaniaeth rhwng 'oedd' a 'roedd'.
e.e. Y darn canu oedd y gorau. / Roedd llawer o bobl yno dros y penwythnos.
Band yr Wythnos:
Band yr Wythnos yw 'Calfari'.
Byddwn yn gwrando ar 'Gwenllian' a 'Erbyn hyn' yn yr ysgol.
Does dim lliw yr wythnos i’r feithrin.
Dydd Llun:
Sesiwn Gwerthoedd:
09:30 - 10:15:
Blwyddyn 3 Miss Broad a Miss Westphal
1:30 - 2:15:
Blwyddyn 4/5 Miss Williams a Mrs Griffiths-Jones
Dydd Mawrth:
Dim gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
Sesiwn Gwerthoedd:
09:30 - 10:15:
Blwyddyn 5/6 Mrs Haman a Mr Bridson
1:30 - 2:15:
Blwyddyn 2 Miss Hughes a Mrs Dalgleish
Ymarfer Shakespeare tan 4:30.
Clwb coginio ar gyfer dosbarth Miss Hughes tan 4:30. (£1)
Dydd Mercher:
Rimbojam ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
(Canolfan Hamdden Pontypwl. 09:30 - 11:30. Gwisg ysgol)
Sesiwn Gwerthoedd:
09:30 - 10:15:
Blwyddyn 1 Miss Sheppeard a Miss Baker
1:30 - 2:15:
Derbyn Miss Thomas a Miss Emery
Bydd gwersi Cymraeg yn yr ysgol heddiw gyda Choleg Gwent.
09:15 - 11:50 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb gwyddbwyll yn ystod amser cinio.
(12-12:45 yn nosbarth Mr Bridson. Mae llythyr wedi cael ei ddanfon adref yn barod.)
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Mrs Griffiths-Jones.
Sesiwn Gwerthoedd:
09:30 - 10:15:
Meithrin y bore
(Yn neuadd yr ysgol)
1:00 - 2:15:
Meithrin y prynhawn
(Yn y feithrin)
2pm: Lansiad Siarter Iaith.
Dewch i'r ysgol i glywed am y Siarter Iaith; i gael eich cyflwyno i'n targedau ar gyfer eleni ac er mwyn cael paned o de neu goffi! Gobeithiwn eich gweld chi yno.
** Clwb Clebran ar gyfer rhieni / gwarchodwyr sy'n siarad Cymraeg. **
Dewch i ymarfer eich Cymraeg a magu hyder mewn sefyllfa anffurfiol.
3:30 - 4:30 yn llyfrgell yr ysgol.
Clwb rygbi ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb pêl-rwyd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Disgo Calan Gaeaf yn Neuadd yr ysgol rhwng 6 a 7.
(Mynediad - £1)
Dydd Gwener:
Sesiwn Gwerthoedd:
09:30 - 10:15:
Blwyddyn 6 Miss Passmore
Clwb HWB yn ystod amser cinio. (Disgyblion CA2)
Gwers ffidil ar gyfer dosbarth Blwyddyn 2 Miss Hughes.
(09:10 - 10:10)
** Byddwn yn gorffen ar gyfer wythnos o hanner tymor. **
Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Mawrth, Tachwedd 7fed.
Diolch yn fawr.