Wythnos Gwerthoedd:
24th October 2017
Dechreuodd ein hwythnos gwerthoedd yn dda iawn ddoe:
Trwy gydol yr wythnos, rydym yn gwahodd rhieni, gwarchodwyr neu aelodau o deulu mewn i weithio gyda'r disgyblion am sesiwn. Tro dosbarthiadau blwyddyn 3 oedd hi bore ddoe a disgyblion blynyddoedd 4 a 5 prynhawn ddoe. Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o rieni yno.
Bore 'ma, tro dosbarthiadau Mrs Haman a Mr Bridson yw hi a thro blwyddyn 2 prynhawn 'ma.
Gobeithiwn eich gweld chi yno.
Diolch.